Adroddiad atodol: SL(5)191 - Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) 2018

Cefndir a Diben

Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu bod cyfeiriadau at ymchwilwyr ariannol achrededig yn Neddf Enillion Troseddau 2002 (“y Ddeddf”) i’w darllen fel cyfeiriadau at ymchwilwyr ariannol achrededig sy’n aelodau o staff Awdurdod Cyllid Cymru.

Caiff ymchwilwyr ariannol achrededig wneud cais am orchmynion atal o dan Ran 2 o’r Ddeddf a chânt ymafael mewn eiddo y mae unrhyw orchymyn o’r fath yn gymwys iddo. Caiff ymchwilwyr ariannol achrededig hefyd chwilio am arian parod, ymafael ynddo, ei gadw a gwneud cais i’w fforffedu. Cyn arfer pwerau chwilio, rhaid iddynt gael cymeradwyaeth ymlaen llaw oddi wrth naill ai ynad heddwch neu uwch-swyddog (oni bai ei bod yn anymarferol gwneud hynny o dan yr amgylchiadau).

Caiff ymchwilwyr ariannol achrededig hefyd wneud cais am orchmynion a gwarantau mewn perthynas ag ymchwiliadau atafaelu, gwyngalchu arian ac arian parod. Gall dibenion gorchmynion o'r fath gynnwys, e.e. ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno deunyddiau penodol, i ganiatáu chwiliad o fangre benodedig ac ymafael mewn deunyddiau ynddi a’i gwneud yn ofynnol i sefydliad ariannol ddarparu gwybodaeth cwsmeriaid. Ymchwilydd ariannol achrededig yn unig, sydd (gan ddibynnu ar natur y gorchymyn neu’r warant) naill ai’n berson priodol, yn swyddog priodol neu’n uwch-swyddog priodol, gaiff wneud cais am y pwerau o dan orchmynion neu warantau o’r fath a/neu eu harfer.

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 12 Mawrth 2018, ynghyd ag ymateb y Llywodraeth, ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwynt rhinweddau uchod.

 

Fodd bynnag, yn ystod ei ystyriaeth, cytunodd y Pwyllgor i gynnwys pwynt arall ar gyfer adrodd yn ymwneud ag anghysondeb rhwng y rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol.

 

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod yn rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru gydymffurfio â chodau ymarfer statudol, ond ein dealltwriaeth ni yw mai dim ond rhoi sylw i'r cod sydd ei angen, a dim ond dyletswydd i roi sylw i ddarnau perthnasol o'r cod hwnnw (gweler adran 67(9) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 ). Mae gwahaniaeth pwysig rhwng gorfod cydymffurfio â rhywbeth a rhoi sylw iddo. Dylai Llywodraeth Cymru egluro'r sefyllfa ac, os oes angen, sicrhau bod yr holl ddogfennau perthnasol sy'n gysylltiedig â'r rheoliadau yn cael eu cywiro.

 

Y weithdrefn

Negyddol

Ymateb Atodol y Pwyllgor

Bydd y Pwyllgor am fod yn ymwybodol bod y Memorandwm Esboniadol wedi'i ddiwygio i adlewyrchu sylwadau yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Mae'r Pwyllgor yn diolch i Lywodraeth Cymru am ei hymateb ac yn croesawu'r newidiadau a wnaed i'r Memorandwm Esboniadol.